Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 3 Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Mercher, 29 Tachwedd
2023
Amser:
09.03 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13535
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru Rebecca Johnson, Llywodraeth Cymru Louise Brown, Llywodraeth Cymru Gill Huws-John, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) - trafod y cwmpas a'r dull gweithredu
1.1 Trafododd y
Pwyllgor gwmpas y broses o graffu ar y Bil a dull y Pwyllgor o
wneud hynny.
2 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - cyflwyniad o’r canfyddiadau o gyfweliadau â theuluoedd
2.1 Cafodd y
Pwyllgor gyflwyniad o’r canfyddiadau o gyfweliadau â
theuluoedd.
3 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Anfonodd Laura Jones ymddiheuriadau o eitem 6 y cyfarfod.
1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd James Evans AS fod ei Nai yn aros am asesiad ADY.
4 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - sesiwn dystiolaeth 12
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i drafod ymhellach rai
o'r materion a godwyd a gyda'r cwestiynau na chawsant eu
gofyn.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 6 a 9
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.
7 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022 - 2023
7.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Comisiynydd yn ei Hadroddiad Blynyddol.
7.2 Cytunodd y
Comisiynydd i ddarparu dadansoddiad fesul awdurdod lleol o nifer yr
ymweliadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Cafodd y papurau eu nodi.
8.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg gyda'r
materion a godwyd yn y llythyr gan Gomisiynydd y
Gymraeg.
9 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022 - 2023: trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i dynnu sylw at y materion a gododd y Comisiynydd ynghylch Tlodi Plant.